Cadeirydd, David J Rowlands AC

Y Pwyllgor Deisebau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

CF99 1NA.

SeneddPetitions@Assembly.Wales

 

 

 


 

 

Rhagfyr 18, 2018


Annwyl David J Rowlands AC,

Deiseb P-05-806: Galwn am i bob adeilad yng Nghymru gael ei ddyfarnu â Rhif Tystysgrif Mynediad yn debyg i’r Dystysgrif Hylendid Bwyd

 

Diolch am eich llythyr wedi’i ddyddio Tachwedd 2.

 

Rydym yn croesawu’n gynnes ystyriaeth y Pwyllgor o’r ddeiseb yn galw ar bob adeilad yng Nghymru i gael ei ddyfarnu â Rhif Tystysgrif Mynediad yn debyg i’r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Fe’i hystyriwn yn gynnig diddorol a chroesawem archwiliad pellach ar sut fyddai’n gweithredu ar waith, gyda chynllun gwirfoddol yn un opsiwn posib.  

 

Mae bod ag adeiladau gwbl hygyrch yn ddaliad canolog hawl pobl anabl i Fyw’n Annibynnol. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar ei Fframwaith diwygiedig ar gyfer Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol[i] yn gyfle allweddol ar gyfer gwneud cynnydd tuag at y nod hwn. Bydd y Comisiwn yn amlygu’r mater hwn yn ystod y broses ymgynghori ac efallai bydd y Pwyllgor yn dymuno ystyried cyflwyno cynrychiolaeth i Lywodraeth Cymru hefyd. Bydd yn angenrheidiol i Lywodraeth Cymru ystyried ei chymhwysedd deddfwriaethol parthed cydraddoldeb a’r amgylchedd adeiledig, gyda Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddeddfwriaeth y DU.

 

Diolch am godi pryderon â ni a soniwyd amdanynt yn ystod eich sesiynau tystiolaeth nad yw darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 parthed mynediad i adeiladau ac, yn ehangach, mynediad i wasanaethau, yn cael eu cadw atynt.  

 

Fel y gwyddoch efallai, mae Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Senedd y DU ar hyn o bryd yn ymgymryd ag Ymchwiliad  i ‘Gorfodi’r Ddeddf Cydraddoldeb: y gyfraith a rôl y CCHD’[ii]. Mae’r ymchwiliad hwn yn bwrw golwg ar bwyntiau cyffelyb yr ydych wedi’u hamlygu ac, wrth ymateb, mae’r Comisiwn wedi codi pryderon am ba mor anodd yw hi i unigolion ddeall eu hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i gael mynediad i dribiwnlysoedd a llysoedd i gael unioniad. Isod amlinellwn ein pryderon allweddol yr ydym wedi’u crybwyll â’r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb.

 

Cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010

Yn bennaf seilir gorfodi hawliau cydraddoldeb ym Mhrydain ar gamau cyfreithiol wedi’u dwyn gan unigolion. Galwodd y Comisiwn ar Lywodraeth y DU i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion difrifol a pharhaus wrth geisio mynediad i gyfiawnder.

Cyn belled â bod gorfodi hawliau dynol yn seiliedig ar gyfreitha sifil, caiff hygyrchedd y system cyfiawnder ei danseilio gan:

·        Ddiffyg ymwybyddiaeth o hawliau cydraddoldeb, wedi’i waethygu gan gyfyngiadau ar fynediad i gyngor cyfreithiol yn y dyddiau cynnar a gyflwynwyd gan Ddeddf Cymorth Gyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr 2012 (LASPO);

·        Cymhlethdod a chost cyfreitha a meddyginiaethau annigonol, a all fod yn  waharddol i unigolion yn gorfodi’u hawliau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu greu anghymhellion cryf rhag cyflwyno hawliad;

·        Toriadau i gymorth cyfreithiol, yn enwedig yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys rhwystrau a gododd wrth weithredu’r porth ffôn gorfodol;

·        Methiant i wneud addasiadau rhesymol yn y system llys;

·        Diffyg rhannu data a gwybodaeth, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig defnyddwyr llys, yn ei sgil ceir darlun aneglur o ddefnyddwyr llys a sut gaiff cryn nifer o hawliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 eu cyflwyno gerbron llysoedd sirol.

Efallai byddwch am gyfeirio at ein cyflwyniad llawn[iii] ar gyfer manylion pellach a’n hargymhellion i orchfygu’r pryderon hyn.  

Rôl y Comisiwn

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan y Senedd gyda chylch gwaith eang a’r disgwyliad y byddai’n gweithredu fel gorfodwr strategol o gyfraith cydraddoldeb. Mae’n bwysig deall na chafodd y Comisiwn ei sefydlu, ac ni chafodd fyth adnoddau i gefnogi nifer fawr o achosion gwahaniaethu unigol neu gamau gorfodi uchel eu hamlder.

Fel gorfodwr strategol, canolbwyntia’r Comisiwn ar sut y gall cyflawni gwelliannau i’r gyfraith, polisi ac arfer drwy ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddo wrth law mewn ffordd gydlynol. Mae ein gweithgaredd cydymffurfio a gorfodi yn cynnwys sbectrwm o weithgareddau wedi’u hanelu at sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith, o ddarparu gwybodaeth a chyngor i unigolion a sefydliadau ar gyfraith cydraddoldeb i ymgymryd â chyfreitha a chamau gorfodi gan ddefnyddio pwerau gorfodi ffurfiol.

Er mwyn gwneud ein gorau glas fel gorfodwr strategol, galwodd y Comisiwn am welliannau i’n pwerau i gasglu gwybodaeth i lywio’n gorfodaeth. Yn arbennig, rydym yn ceisio cael y llinell gyngor ffôn yn ôl yn cynnig cyngor i’r cyhoedd ar wahaniaethu a hawliau dynol (a oedd gennym gynt cyn i Lywodraeth y DU ei drosglwyddo i’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb). Mae’r llinell gymorth yn gyfarpar hanfodol i gefnogi’r Comisiwn i gysylltu â phobl ym Mhrydain sydd ar lawr gwlad, deall eu profiad gwahaniaethu a gweithredu pan fo’n briodol. Gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r data a ddarperir gan y gwasanaeth, byddem yn gallu cymryd camau sydd wedi’u targedu i gefnogi mwy o bobl ddatrys cwynion, yn ogystal â herio gwahaniaethu systemig.

 

 

 

Cynllun Strategol y Comisiwn 2019 - 2022

 

Mae Cynllun Strategol Drafft y Comisiwn ar gyfer 2019 – 2022[iv] yn cynnwys nod blaenoriaeth ar gyfer gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a’r amgylchedd adeiledig yn hygyrch i bobl anabl a phobl hŷn er mwyn cefnogi’u cynhwysiant economaidd a chymdeithasol.  

 

Byddem yn croesawu unrhyw farn y gallai fod gan y Pwyllgor i gynorthwyo wrth lunio’n Cynllun Strategol 2019 - 2022, yn ogystal ag ar orfodi Deddf Cydraddoldeb 2010, tuag at y nod o amddiffyn a hybu hawliau pobl anabl yn bellach yng Nghymru.  

 

Os ydych am wybodaeth bellach i’ch cynorthwyo wrth ystyried y ddeiseb, rhowch wybod i ni.   

 

Yr eiddoch yn ddiffuant,

Ruth Coombs

Pennaeth Cymru

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol



[i] Action on Disability consultation:  https://beta.gov.wales/action-disability-right-independent-living

[ii] Enforcing the Equality Act: the law and the role of the EHRC: https://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/commons-select/women-and-equalities-committee/news-parliament-2017/enforcing-the-equality-act-launch-17-19/

[iii] Available under October 2018: https://www.equalityhumanrights.com/en/legal-responses/consultation-responses

[iv] Equality and Human Rights Commission Draft Strategic Plan 2019 -2022 consultation: https://www.equalityhumanrights.com/en/publication-download/draft-strategic-plan-2019-2022. Survey available: https://www.equalityhumanrights.com/en/our-work-have-your-say